2014 Rhif 2015 (Cy. 202)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“y Rheoliadau Optegol”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol er mwyn cyfeirio at gynnydd o 1% yn y ffioedd ar gyfer profion golwg y GIG.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


2014 Rhif 2015 (Cy. 202)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014

Gwnaed                           28 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym                             19 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 76(9), 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Awst 2014 ond mae’r diwygiadau a nodir yn rheoliad 2 yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ymlaen.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997([2]).

Diwygio rheoliad 1 o’r Rheoliadau Optegol

2. Yn rheoliad 1(2) o’r Rheoliadau Optegol (enwi, cychwyn a dehongli), yn y diffiniad o “NHS sight test fee”—

(a) yn lle “£57.72”, rhodder “£58.29”; a

(b) yn lle “£20.90”, rhodder “£21.10”.

 

 

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

28 Gorffennaf 2014



([1])           2006 p.42.

([2])           O.S. 1997/818 fel y’i diwygiwyd.